Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2016
Amser: 09.21 -
09.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3941
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 211KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nododd nad oedd disgwyl i Janet-Finch Saunders fod yn bresennol ar gyfer dechrau’r cyfarfod.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail nad yw’n swyddogaeth y Pwyllgor i awgrymu wrth fudiadau’r trydydd sector eu bod yn ceisio arian gan Lywodraeth Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y deisebydd yn awgrymu y gall fod am ddangos llythyr Ysgrifennydd y Cabinet i unrhyw sefydliadau y mae’n teimlo a fyddai’n elwa o gael gwybodaeth am ariannu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
· Cadwch Gymru’n Daclus i ofyn am eu teimladau ynglŷn â’r ddeiseb a’r awgrymiadau a wnaed gan y deisebwyr, gan gynnwys, a allai elfennau o gynnig y Wildlife Warriors gael eu hymgorffori yn y cynllun Eco-Ysgolion; a
· y deisebwyr, i rannu gwybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet am brosiect newydd, sef Caru Gwenyn.
Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal sesiwn graffu ar ddefnyddio maglau ar 30 Tachwedd 2016.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y sesiwn graffu hon, ac i ystyried y ddeiseb mewn cyfarfod yn y dyfodol, ochr yn ochr â diweddariad â ddisgwylir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn fodlon cyfarfod â’r deisebwyr i drafod eu pryderon a’r camau eraill posibl y mae’r gwaith ymchwil yn ei awgrymu.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y materion a godir gan y ddeiseb gan fod ei chwaer yn hollol fyddar.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i nodi ychydig o gefndir y ddeiseb ac i ofyn am farn Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer gweithredu a nodwyd gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd am ddatblygiad yr arwyddion.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.8.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.8.
Bu’r Pwyllgor yn trafod hanes y deisebau a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.